Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2016
Amser: 09.10 -
12.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3824
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Hefin David AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Meilyr Rowlands, Estyn Claire Morgan, Estyn Farrukh Khan, Estyn Dr Jonathan Brentnall, Education Consultant Phil Evans, Association of Directors and Social Services (ADSS) Tanya Evans, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (999KB) Gweld fel HTML (999KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown a John Griffiths. Dirprwyodd Mike Hedges ar ran John Griffiths.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn. Cytunodd Estyn i ddarparu nodyn ar ysgolion nad oedd yn dilyn arfer gorau o ran cefnogi disgyblion sipsiwn.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Jonathan Brentnall.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Cytunodd y ddwy gymdeithas i ddarparu proffil cyllideb tair blynedd ar gyfer gweithredu'r cynllun Eiriolaeth Genedlaethol.
Nodwyd y papur.
Derbyniwyd y cynnig.
Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.
Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal rhywfaint o waith ar hyfforddiant athrawon, sef 'y 1000 diwrnod cyntaf', a chytunodd i barhau â'i waith ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.